Dylanwadu ar wair gwanwyn cynharach

: Philip Cosgrave

Mae nifer o fanteision i gynyddu cyflenwad gwair gwanwyn cynnar fel y gall da byw ddechrau pori yn gynharach, nid y lleiaf arbed arian a fyddai fel arall yn cael ei wario ar brynu porthiant. Gall maeth chwarae rôl hollbwysig mewn dylanwadu ar dyfiant cynnar.


Influencing earlier spring grass
Influencing earlier spring grass
Mae nitrogen gwanwyn yn ysgogi tyfiant gwair cynnar

Y ffactor pwysicaf sy'n effeithio ar dyfiant gwair gwanwyn ar ffermydd yw dyddiad ac ansawdd nitrogen y gwanwyn (N) a defnydd gwrtaith sylffwr. Mae arbrofion wedi dangos bod defnydd N yn y gwanwyn cynnar wedi arwain at o leiaf 10kg DM fesul kg o N a ddefnyddir. Os byddwch y defnyddio N yn hwyr yn y gwanwyn, gallech fod yn oedi tyfiant gwair gan 3 wythnos. Mae hyn mewn gwirionedd yn golygu os nad ydych yn defnyddio N yn gynnar y gallech wynebu cyfnod lletya estynedig y gellir ei osgoi. Mae gwerth y gwair cynnar hwn yn sylweddol, ond ar gyfer buches odro sy'n bwrw ei lloi yn y gwanwyn mae pob diwrnod ychwanegol y gallwch gael gwartheg allan ar y gwair yn y gwanwyn yn cynyddu elw net gan £2.20 y fuwch (Teagasc, 2016).

Pam fod y nitrogen cynnar hwn yn hollbwysig?

Wrth i'r dyddiau ymestyn a thymheredd y pridd ddechau codi yn y gwanwyn, mae planhigyn y gwair ar ei wanaf o ran egni. Mae angen N arno i ddal golau'r haul ac felly tyfu. Os byddwn yn cyflenwi nitrad a gymerir i mewn yn hawdd gan system y gwreiddyn yna bydd ffotosynthesis a thwf gwair yn dechrau'n gynt. Mae lefelau sylffwr yn y pridd hefyd yn isel ar yr adeg hon o'r flwyddyn ac mae unrhyw sylffwr sy'n weddill ac ar gael o'r flwyddyn flaenorol wedi'i drwytholchi erbyn hyn. Mae nitrogen yn gweithio'n well pan fo sylffwr ar gael felly bydd defnyddio cynnyrch N a S yn hybu tyfiant gwair a hefyd lefelau protein a siwgr.

Pa ffurf ar nitrogen sydd orau?

Rhaid gwneud dewis ar ffurf y N ar gyfer y defnydd cyntaf hwn o N. AN yw'r mwyaf dibynadwy ac mae'r gyfran nitrad yn barod i gael ei defnyddio gan y gwair ar unwaith ac mae'r ffracsiwn Amoniwm-N sy'n weddill yn sefydlog ac nid yw'n dueddol i drwytholchi neu golli amonia drwy anweddiad. Mae angen defnyddio wrea ddwy wythnos cyn i'r tyfiant ddechrau ac mae'n dueddol i golli amonia-N oni bai bod glaw (5mm) yn dilyn ei ddefnydd. Bydd wrea a ddefnyddir mewn tywydd oer a sych yn colli swm sylweddol o amonia-N gan y bydd digon o leithder i gychwyn y broses gemegol sy'n ysgogi'r golled hon mewn N.

YaraBela Nutri Booster (25% N, 5% SO3 a seleniwm) yn gynnyrch delfrydol i'w ddefnyddio yn y gwanwyn cynnar. Mae'n cynnwys nitrogen nitrad, sylffad (yn hytrach na sylffwr elfennol) a sodiwm selenad. Gall y nitrad a'r sylffad gael eu cymryd i mewn ar unwaith gan y gwreiddiau a, gyda golau'r haul, byddant yn rhoi hwb cychwynnol i dyfiant y gwair tra bydd y sodiwm selenad ym mhob gronyn yn darparu seleniwm ym mhob brathiad o'r gwair.

Beth am slyri gwartheg?

Dylid defnyddio slyri gwartheg (2,500 galwyn/erw) ar draean o'r padogau sydd â'r gorchuddion isaf neu ar dir silwair sydd â mynegeion K isel. Cofiwch fod defnydd N mewn slyri ar ei uchaf yn y gwanwyn ac fe'i cynyddir ymhellach os y'i gosodir gyda system 'trailing shoe' neu chwistrellu bas. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd samplau o'ch pridd cyn defnyddio. Anelwch i roi 25 - 30 kg/hectar (20 - 24 uned/erw) o nitrogen i'r padogau sy'n weddill gyda'r gorchuddion uchaf.

Faint o nitrogen cynnar sydd ei angen arnaf?

Mae Yara yn argymell 25 - 30kg N/hectar (20 - 24 uned/erw) ar gyfer systemau pori gyda stoc ddwys. Ar ffermydd lle mae'r stoc yn llai dwys gellir lleihau'r gyfradd ond hyd yn oed ar y ffermydd hyn bydd nitrogen cynnar yn hybu tyfiant gwair. Pryd? Cyn gynted â bod amodau'r caeau yn barod, yn arbennig yn rhannau mwynach y DU.

Mae argaeledd ffosffad yn y gwanwyn yn cyfyngu ar dwf

Mae ffosffad yn faethyn allweddol ar gyfer gwair, ac mae ei rôl mewn rhoi egni, tyfiant gwreiddiau a chadeirio yn gwneud ei argaeledd yn hanfodol ar gyfer tyfiant gwair yn y gwanwyn. Mae gofyniad y planhigyn am ffosffad yn gymharol fach o gymharu â nitrogen ond mae'n hanfodol ei fod ar gael.

Mae argaeledd ffosffad yn is ar dymheredd isel yn y gwanwyn ond gall cymeriant gwair ym misoedd Ebrill a Mai gyrraedd 0.6kg (P205) y dydd. Ar y gyfradd cymeriant hon nid yw faint o ffosffad a ryddheir o gronfa'r pridd yn ddigonol, felly mae angen ffosffad mwynol i ychwanegu at y ffosffad sydd ar gael yn y pridd er mwyn rhoi'r cynnyrch a'r crynodiad ffosffad gorau posibl yn y llystyfiant.

Yn nodweddiadol, mae'r ffosffad mewn gwrtaith yn gwbl hydawdd mewn dŵr; mae hyn fodd bynnag yn creu ei broblemau ei hun. Cyn gynted ag y byddwch yn ychwanegu ffosfforws hydawdd at bridd, yn araf daw'r ffosfforws hydawdd hwn yn cael ei wneud yn elfen gyfansawdd gan haearn ac alwminiwm.

Mae'r ffosffad sydd wedi'i gynnwys mewn YaraMila Silage Booster (20-4.5-14.5+ 7.5%SO3+Selenum) a YaraMila Stock Booster S (25-5-5+5%SO3+Selenium+Sodium) yn gymysgedd o ffosffad hydawdd mewn dŵr a Ffosffad Deucalsiwm (DCP). Ni wneir y DCP hwn yn elfen gyfansawdd gan y pridd ond daw ar gael gan y caiff ei sbarduno gan asidau gwan o achwysiadau gwreiddiau'r gwair. Mae'r cyfuniad delfrydol hwn o ddau ffracsiwn ffosffad yn hytrach nag un yn rhoi gwell argaeledd ffosffad yn ystod misoedd Ebrill a Mai.

Y gofyniad a argymhellir ar gyfer cynhaliaeth ar gyfer P (fel P2O5) ar borfeydd yw 20kg/hectar ac ar gyfer y toriad cyntaf a'r ail doriad mae'n 40 a 25kg/hectar yn y drefn honno. Mae canlyniadau profion pridd yn werthfawr iawn ar gyfer optimeiddio defnydd ffosffad.

Beth yw effaith nitrogen a sylffwr ar gynnyrch ac ansawdd silwair

Mae'r graff yn dangos effaith cyfradd nitrogen ar doriad cyntaf ac ail doriad y silwair. Wrth i'r gyfradd nitrogen gynyddu, mae canran y protein crai hefyd yn cynyddu. Mae angen nitrogen i adeiladu biomas cnwd ond mae hefyd yn hollbwysig i adeiladu proteinau planhigion.
Mae gan sylffwr rôl allweddol i'w chwarae mewn maeth cnydau gwair, ac ni ddylid mwyach ei weld dim ond fel rhywbeth angenrheidiol ar briddoedd ysgafn a thywodlyd. Wrth reswm, mae'r ymateb o ran cynnyrch yn fwyaf ar y mathau hyn o briddoedd ond rydym nawr yn gweld dro ar ôl tro bod protein ac egni gwair yn gwella pan ddefnyddir sylffwr ar y lefelau a argymhellir.

Effaith cyfradd nitrogen ar ganran protein crai

Effaith cyfradd nitrogen ar ganran protein crai

 

Beth yw gwerth yr ansawdd ychwanegol hwn?

Cyfrifodd y maethegydd annibynnol Wesley Habershon o'r grŵp ymgynghoriaeth ffermydd y gallai cynyddu lefelau protein silwair o 11% i 14.5% arbed £32,000 y flwyddyn ar borthiant a brynir ar gyfer buches laeth 120 o wartheg.

Y cyfraddaau N a S optimwm ar gyfer silwair toriad cyntaf yw 120-140kg N/hectar a 35-45kg SO3/hectar.

Os byddwn yn adeiladu cynnyrch yn gynnar ac yn torri yn gynnar ym mis Mai, gallwn fanteisio ar ail-dyfiant cyflymach a allai fod dros 100kg DM/hectar/dydd ac o ganlyniad gwella ansawdd yr ail doriad drwy dorri'n gynharach.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am faeth glaswelltir

Cyngor cysylltiedig

Tyfu'r dyfodol | Hybu tyfiant y gwanwyn

Hybu tyfiant y gwanwyn gyda gwasgaru nitrogen ynghyd a sylffwr

Bydd defnyddio nitrogen cynnar fel nitrad yn rhoi'r dechrau gorau i'r borfa, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys sylffwr - mae'n gwella effeithlonrwydd nitrogen ac yn gwneud yn iawn am y diffygion yn eich pridd.
Sut i gynyddu cynnyrch glaswelltir

Sut i gynyddu cynnyrch glaswelltir

Prif elfennau cynnyrch gwair yw nifer y dail fesul arwynebedd uned a'r cynnwys o ran deunydd sych. Mae rhaglen wrteithio gytbwys sy'n cynnwys yr holl facrofaethynnau a microfaethynnau yn hanfodol mwyn cael y gwerth maethol a'r cynnyrch gorau posibl.
Sut i wella ansawdd glaswelltir

Sut i wella ansawdd glaswelltir

Y tair elfen ar gyfer ansawdd glaswelltir a thir pori yw ansawdd porfa, ansawdd maethol ac iechyd anifeiliaid. Dylanwadir yn gryf ar bob un o'r elfennau hyn gan raglen faeth gytbwys.
Sut i gynyddu cynnwys seleniwm gwair

Sut i gynyddu cynnwys seleniwm gwair

Mae gan anifeiliaid pori ofynion gwahanol am ficrofaethynnau na'r rheini sydd eu hangen ar gyfer tyfiant gwair. Mae seleniwm yn faethyn hanfodol i anifeiliaid ond nid ar gyfer planhigion felly mae'n bwysig bod digon ohono yn bresennol yn y gwair i...
Faint mae peidio â gwasgaru sylffwr yn ei gostio i chi?

Faint mae peidio â gwasgaru sylffwr yn ei gostio i chi?

Mae nifer o gwmnïau ffermio, am reswm da, wedi'u gwreiddio mewn traddodiad a phan ddaw hi i brynu gwrtaith mae ffermwr yn parhau i brynu'r hyn y maent wedi bod yn ei brynu erioed. Ond os yw peidio gwasgaru sylffwr ar borfa yn costio dros £100/hectar i chi...
Agronomy Advice - Managing spring fertiliser and slurry applications

Rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri ar gyfer pori

Yn dilyn blwyddyn arferol byddai'n rhesymol i ddisgwyl bod peth maethynnau yn dal ar gael ar gyfer gwair y gwanwyn, ond yn dilyn gaeaf arbennig o wlyb efallai na fydd hyn yn wir. Felly dyma ein cyngor ar gyfer rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri.
Ten reasons to use YaraBela Nutri Booster

Deg rheswm dros ddefnyddio YaraBela Nutri Booster yr haf hwn

Yr her rhwng nawr a'r hydref yw sicrhau'r tyfiant porfa gorau posibl fel y gellir ymestyn y tymor pori a bydd digon o silwair o ansawdd da ar gyfer y gaeaf. Er mwyn cefnogi ein ffermwyr da byw yn yr her hon rydym ni yn Yara yn datblygu cynhyrchion fel...
Agronomy Advice - Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach

Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach

Mae gwrtaith wastad wedi bod yn fuddsoddiad da i ffermwyr da byw, boed eich bod yn tyfu porfa ar gyfer pori neu am leihau costau porthiant drwy well rheolaeth ar silwair.